Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Materion Ewropeaidd

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Materion Ewropeaidd

Bu’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn dilyn hynt cynigion yr UE a oedd o ddiddordeb i’r Pwyllgor, a cheisio dylanwadu arnynt, drwy ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

Aethpwyd i’r afael ag unrhyw faterion a ddaeth i’r amlwg a oedd yn berthnasol i Gymru drwy gyfathrebu â’r sefydliadau Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

 

Gwnaeth y Pwyllgor ystyried:

 

  • Coflenni allweddol yr UE sydd yn rhan o broses ddeddfwriaethol yr UE ar hyn o bryd ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd;
  • Meysydd gwaith newydd a nodir gan Raglen Waith 2015 y Comisiwn Ewropeaidd ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor;
  • Coflenni deddfwriaethol allweddol y cytunwyd arnynt yn barod ar lefel yr Undeb Ewropeaidd sydd bellach yn y cam gweithredu cenedlaethol, ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor.

 

Er bod gan yr ymchwiliadau a restrir isod gysylltiadau amlwg â chynigion yr UE, roedd llawer o waith y Pwyllgor (ar gael drwy hafan y Pwyllgor) yn cynnwys materion ynghylch yr UE:

 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2015

Dogfennau