Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Gwybodaeth am y Bil

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

Cynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru ar lefel genedlaethol a lleol;

Rhoi pwrpas cyffredinol i Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gysylltiedig â’r 'egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy' a ddiffinnir yn y Bil;

Gwella'r pwerau sydd ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cytundebau rheoli tir a chynlluniau arbrofol;

Rhoi gofyniad ar awdurdodau cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth;

Creu fframwaith statudol ar gyfer gweithredu ar newid hinsawdd, gan gynnwys targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;

Diwygio'r gyfraith ar godi tâl am fagiau siopa;

Rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff (yn cynnwys casglu gwastraff ar wahân); trin gwastraff bwyd ac adfer ynni mewn busnes;

Gwneud darpariaeth ynghylch sawl gorchymyn mewn perthynas â physgodfeydd cregyn;

Ffioedd ar gyfer trwyddedau morol;

Sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol; a

Newidiadau i'r gyfraith ar ddraenio tir a is-ddeddfau a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyfnod presennol

Daeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016 (gwefan allanol).

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

 

 

Cyflwyno'r Bil: 11 Mai 2015

 

 

Bil yr Amgylchedd (Cymru), fel y’i gyflwynwyd

Memorandwm Esboniadiol

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 11 Mai 2015

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 11 Mai 2015

Datganiad ynglyn â Bwriad Polisi

Geirfa’r gyfraith (fersiwn Gymraeg yn unig)

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil

 

 

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol

 

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 12 Mehefin 2015.

Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau canlynol:

24 Mehefin 2015

2 Gorffenaf 2015

8 Gorffenaf 2015

16 Gorffenaf 2015

16 Medi 2015 (preifat)

30 Medi 2015 (preifat)

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Ymateb i Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

Bil yr Amgylchedd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (heb eu gwirio)

 

 

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

 

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Tachwedd 2015.

 

 

Penderfyniad Ariannol

 

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Tachwedd 2015.

 

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2015.

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 21 Hydref 2015

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 21 Hydref 2015

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 11 Tachwedd 2015

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 16 Tachwedd 2015

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 17 Tachwedd 2015

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 18 Tachwedd 2015

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 19 Tachwedd 2015

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 26 Tachwedd 2015 F3

Grwpio Gwelliannau: 26 Tachwedd 2015 F2

Bil yr Amgylchedd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Gwybodaeth Ychwanegol - 10 Rhagfyr 2015

Memorandwm Esboniadol diwygiedig

 

 

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ionawr 2016.

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 15 Ionawr 2016 f2

Llywodraeth Cymru – Tabl diben ac effaith: 15 Ionawr 2015 (Saesneg yn unig)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 19 Ionawr 2016

Rhestr o Welliannau wedi'u Didoli - Cyfnod 3

Grwpio gwelliannau: 26 Ionawr 2016

Bil yr Amgylchedd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

 

 

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 2 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bil yr Amgylchedd (Cymru), fel y’i pasiwyd

 

Bil yr Amgylchedd (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML)

 


Ar ôl Cyfnod 4


Mae'r cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos wedi dod i ben. Mae'r breinlythyrau ar gyfer y Bil wedi cael eu cyflwyno i Ei Mawrhydi y Frenhines ar gyfer Cydsyniad Brenhinol.

Ysgrifenodd y Twrnai Cyffredinol, y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil y’r Amgylchedd (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

 

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

 

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.

 

 

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Alun Davidson

Rhif ffôn: 0300 200 6339

Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd    

CF99 1NA

Email: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/04/2015

Pobl yr ymgynghorir â hwy

llll

Dogfennau

Ymgynghoriadau