P-04-651 Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennnu Cyllidebau yn yr Hydref
P-04-651 Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennnu Cyllidebau yn yr Hydref
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio i amddiffyn
llywodraeth leol wrth bennu cyllidebau yn yr Hydref.
Helpu i amddiffyn y gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu
arnynt gymaint, y gwasanaethau rydym eu hangen pan fyddwn yn ei chael hi'n
anodd fwyaf.
Helpu i ddiogelu ein swyddi yr ydym mor falch eu gwneud
yn ein cymunedau.
RHAID i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i opsiynau eraill i'w
hystyried, opsiynau a fyddai'n cael cryn dipyn yn llai o effaith ar ein
cymunedau lleol
Gwybodaeth
ychwanegol
Bydd toriadau pellach i'r gyllideb yn dinistrio ein
cymunedau. Mae'r gwasanaethau y mae llywodraeth leol yn eu darparu yn hanfodol
i bob un ohonom.
Bydd toriadau
pellach i gyllideb llywodraeth leol yn dinistrio swyddi, gwasanaethau a
chymunedau lleol.
Er enghraifft: mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot yn un o'r awdurdodau sy'n wynebu'r lefelau uchaf o amddifadedd yn y
DU. I reoli'r toriad diweddar o £102 miliwn i'w gyllideb, mae wedi gweithio'n
galed mewn partneriaeth gref gyda'r undebau llafur er mwyn osgoi diswyddo
gorfodol a chontractio gwasanaethau'n allanol. Mae'r toriadau wedi cael effaith
ar y gwasanaethau a ddarperir a'r gweithlu.
Gallai toriadau pellach olygu colli swyddi, gan gynnwys
swyddi ar reng flaen gwasanaethau, a throsglwyddo gwasanaethau'r cyngor i'r
sector preifat. Mae UNSAIN Castell-nedd Port Talbot wedi dangos nad yw
contractio gwasanaethau'n allanol yn gweithio'n hirdymor. Pan gaiff cwmnïau o'r
sector preifat eu defnyddio, mae'n amharu ar ddarparu gwasanaethau, mae'n
gostus ac mae islaw safonau arferol, yn ogystal â cholli swyddi a chael effaith
ar delerau ac amodau gweithwyr.
Prif
ddeisebydd: NPT UNISON
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:
Nifer
y deisebwyr: 196 llofnod ar
lein
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/09/2015