Craffu ar y gyllideb

Craffu ar y gyllideb

Yn unol â Rheol Sefydlog 19, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw ddogfen a osodir gerbron y Senedd gan Weinidogion Cymru neu Gomisiwn y Senedd sy’n cynnwys cynigion o ran defnyddio adnoddau.

 

Gall y Pwyllgor hefyd ystyried ac adrodd ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu wariant sy’n effeithio arni.

 

Fel rhan o’i gyfrifoldebau, mae’r Pwyllgor yn craffu ar y canlynol fel rhan o’r cylch cyllideb blynyddol:

 

 

Cyllideb Llywodraeth Cymru

 

 

Cyllideb Comisiwn y Senedd

 

 

Amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Amcangyfrif o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

Datganiad o Egwyddorion y mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol eu hystyried wrth wneud cynigion cyllidebol – Mai 2019 (PDF, 224KB)

Math o fusnes: Gwelliant

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/10/2015