Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig: yr Adolygiad o Siarter y BBC

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig: yr Adolygiad o Siarter y BBC

Ystyriodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r BBC er mwyn gwneud rôl ymgynghorol Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn y broses o adolygu Siarter y BBC yn un ffurfiol. Bwriadwyd i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig ddisodli’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cynharach rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r BBC ym mis Hydref 2015.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol hefyd Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol galwad am dystiolaeth, a ddaeth i ben ddydd Gwener 25 Chwefror 2016.

 

Adroddiad ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig: yr Adolygiad o Siarter y BBC – Mawrth 2016

 

Ymateb Llywodraeth Cymru – Ebrill 2016 (Saesneg yn unig)

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/02/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau