Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd

Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 7 Tachwedd 2011 i geisio barn ar ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd, 'Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth ar Roi Organau a Meinweoedd: Papur Gwyn'. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Ionawr 2012. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy sesiwn friffio ffeithiol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru:

 

  • sesiwn friffio ar Bapur Gwyn y Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth ar Roi Organau a Meinweoedd (8 Rhagfyr 2011)
  • sesiwn friffio ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft (25 Hydref 2012)

 

Mae'r holl wybodaeth am ystyriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) ar gael ar wefan y Bil.

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2016