Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar wasanaethau cymdeithasol
Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar wasanaethau cymdeithasol
Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 12 Mawrth 2012 i geisio barn ar ei chynigion
ar gyfer deddfwriaeth i fwrw ymlaen â'r rhaglen newid a amlinellwyd yn y Papur
Gwyn, 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu'.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Mehefin 2012. Mae rhagor o wybodaeth am yr
ymgynghoriad ar gael ar wefan
Llywodraeth Cymru.
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru sesiwn friffio ffeithiol gyda swyddogion
Llywodraeth Cymru ar 16
Mai 2012 er mwyn cael trosolwg o'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru), strategaeth yr ymgynghoriad, a'r amserlen ar gyfer y camau nesaf.
Mae'r holl
wybodaeth am ystyriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar gael ar wefan y Bil.
Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2016