Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol

Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol

Rôl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* yw ystyried a chyflwyno adroddiad ar is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Senedd.

 

Mae'r rhan fwyaf o'r is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn y weithdrefn negyddol. Ar ôl i Weinidogion Cymru arfer eu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, mae'r weithdrefn hon yn darparu bod yn rhaid iddynt osod yr is-ddeddfwriaeth gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod i wrthwynebu'r is-ddeddfwriaeth. Os na fydd y Senedd yn gwrthwynebu, bydd yr is-ddeddfwriaeth yn parhau i gael effaith (mae'n 'parhau' i gael effaith oherwydd y bydd yr is-ddeddfwriaeth wedi dod i rym yn awtomatig cyn gynted ag y cafodd ei rhyddhau i'r cyhoedd). Os bydd y Senedd yn gwrthwynebu, caiff yr is-ddeddfwriaeth ei dirymu ac ni fydd dim byd arall y gellir ei wneud o dan yr is-ddeddfwriaeth.

 

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2016

Dogfennau