P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim
P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Rhian Cecil ar ôl casglu 1,195 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Mae iechyd wedi'i ddatganoli'n
llwyr i Gymru. Gofynnwn i'r Cynulliad ac i Mark Drakeford newid yr ystod oedran
fel bod pob plentyn yn cael y brechlyn.
Mae pob plentyn mewn perygl o
ddal yr haint ofnadwy hwn, ac eto dim ond babanod 2 i 5 mis oed y mae
Llywodraeth Cymru yn eu brechu. Mae angen cyflwyno rhaglen i frechu pob plentyn
hyd at 11 oed o leiaf. Gall heintiau meningococaidd fod yn ddifrifol iawn, gan
achosi LLID YR YMENNYDD, SEPTISEMIA A MARWOLAETH
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y
gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y
deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2016