P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd
P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mohammed Sarul Islam ar ôl casglu 16
llofnod.
Geiriad y
ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru
i gymell Llywodraeth Cymru i adeiladu cofeb Ieithoedd Rhyngwladol ym Mae
Caerdydd ar gyfer pawb sy'n caru mamieithoedd ledled y byd.
Gwybodaeth
ychwanegol
Cafodd plac ei osod gan Arglwydd Faer Caerdydd yn 2012 ym Mharc Grange
Moor, Bae Caerdydd. Ond o ganlyniad i ddiffyg cyllid ni chafodd ei hadeiladu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 19/09/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi
wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ynghyd â sylwadau
pellach gan y deisebydd, gan gytuno i gau'r ddeiseb am nad oes cyllid ar gael
gan y Llywodraeth i adeiladu'r gofeb.
Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am dynnu sylw'r deisebydd at bapur
briffio'r Gwasanaeth Ymchwil, sy'n nodi sefydliadau ac elusennau a allai helpu
â'r ymgyrch.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016.
Etholaeth a
Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2016