Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad - Y Bumed Senedd
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad - Y Bumed Senedd
Caiff Aelodau’r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar i Gomisiynwyr y
Cynulliad am unrhyw fater sy’n rhan o’u meysydd cyfrifoldeb.
Bydd y Comisiynwyr yn ateb cwestiynau bob pedair wythnos y bydd y
Cynulliad yn cyfarfod mewn Cyfarfod Llawn. Caiff cwestiynau llafar eu hateb yn
ystod sesiwn gwestiynau ddynodedig yn y
Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu ar enwau’r Aelodau a gaiff
gyflwyno’r cwestiynau. Gellir cynnwys enw unrhyw Aelod yn y balot.
Ar ôl dewis yr enwau, rhaid i’r Aelodau gyflwyno’u cwestiynau o leiaf
bum diwrnod cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Caiff y
drefn y gofynnir y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ei phennu ar hap gan
gyfrifiadur.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2016