Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol - Y Bumed Senedd

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol - Y Bumed Senedd

Caiff Aelodau'r Cynulliad (AC) ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad  i’r Cwnsler Cyffredinol am unrhyw fater mewn perthynas â’i gyfrifoldebau fel swyddog y gyfraith.

 

Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2016