Ymchwiliad i Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru

Ymchwiliad i Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru

Ar 5 Hydref 2011, cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol sesiwn dystiolaeth ar ddiogelwch cymunedol i ymdrin ag effaith y toriadau mewn gwariant cyhoeddus ar blismona rheng flaen ac i ystyried y goblygiadau i gymunedau lleol a pholisi diogelwch cymunedol yng Nghymru.      

Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

Ystyried effaith y toriadau gwariant cyhoeddus ar heddluoedd Cymru, yn benodol:

 

  • effaith y toriadau gwariant cyhoeddus ar blismona rheng flaen;
  • manylion am raglen ddiwygio heddluoedd Cymru, a luniwyd i wella effeithlonrwydd a lleihau costau; a
  • y goblygiadau i gymunedau lleol a pholisi diogelwch cymunedol yng Nghymru.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/05/2015

Dogfennau