Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc

Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc

Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad ar leihau’r risg o strôc yn ystod gaeaf 2011. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

Ymchwilio i’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i leihau’r risg o strôc a holi pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y gwasanaethau hyn, yn cynnwys:

 

  • craffu ar sut mae Llywodraeth Cymru’n rhoi’r Cynllun Gweithredu Lleihau Risg o Strôc ar waith, gan gynnwys i ba raddau y mae’r camau a gymerwyd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y risgiau o gael strôc wedi llwyddo;
  • nodi’r ardaloedd lle y mae problemau penodol wrth weithredu camau i leihau’r risg o strôc a phroblemau i’w darparu;
  • ystyried y dystiolaeth o blaid lansio rhaglen sgrinio ffibriliad atriol yng Nghymru.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth gan y cyn Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 309KB).

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 579KB) ym mis Rhagfyr 2011. Mae crynodeb o’r adroddiad (PDF, 139KB) ar gael hefyd.

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 128KB) yn Chwefror 2012.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 8 Chwefror 2012.

 

Gwaith dilynol y Pwyllgor

 

Yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol, nododd y Pwyllgor ei fwriad i ddychwelyd at y pwnc o fewn dwy flynedd i wneud gwaith dilynol ynghylch ganfyddiadau a’i argymhellion cyntaf. Ym mis Gorffennaf 2013, cytunodd y Pwyllgor i ystyried effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r gwendidau mewn gwasanaethau a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2011, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithredu argymhellion y Pwyllgor.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 277KB).

 

Llythyr y Pwyllgor

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 232KB) ym mis Ionawr 2014. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 108KB) ym mis Chwefror 2014.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 167KB) eto ym mis Ebrill 2014. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 145KB) ym mis Mai 2014.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2011

Y Broses Ymgynghori

Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 16 Medi 2011.

Dogfennau

Ymgynghoriadau