Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru

Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd ym mis Mai 2012. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

Ymchwilio i ba mor effeithiol oedd contract Fferylliaeth Gymunedol i wella cyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd a lles, yn cynnwys:

  • y graddau y mae Byrddau Iechyd Lleol wedi cymryd y cyfleoedd a ddarparwyd trwy’r contract i ymestyn gwasanaethau fferylliaeth drwy ddarparu gwasanaethau “gwell”, ac enghreifftiau o gynlluniau llwyddiannus;
  • graddfa’r gwasanaethau “uwch” a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol a pha mor ddigonol ydynt;
  • y posibilrwydd o ddarparu rhagor o wasanaethau gan fferyllfeydd cymunedol yn ychwanegol at roi meddyginiaethau a dyfeisiau’r GIG, gan gynnwys y posibilrwydd o gael cynlluniau ar gyfer mân anafiadau;
  • effaith bresennol ac effaith bosibl ehangu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol ar y galw am wasanaethau’r GIG mewn sefyllfaoedd gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ac unrhyw arbedion cost y gallant eu cynnig;
  • hynt y gwaith a wneir ar hyn o bryd i ddatblygu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth ar y pwnc hwn.

Adroddiad y Pwyllgor

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad ym mis Mai 2012. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2012. Cafwyd trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Gorffennaf 2012.

Gwaith dilynol y Pwyllgor

Yn y gwanwyn yn 2014, cytunodd y Pwyllgor i wneud galwad wedi'i dargedu am dystiolaeth gan y rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor.

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth lafar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 24 Medi 2014.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei lythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Tachwedd 2014. Mae'r llythyr yn nodi'r meysydd allweddol lle y mae angen rhagor o waith ym marn y Pwyllgor. Cafodd y Pwyllgor ymateb i’w lythyr ym mis Rhagfyr 2014.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2011

Dogfennau