Cyllideb Llywodraeth Cymru

Cyllideb Llywodraeth Cymru

Rhaid i Lywodraeth Cymru osod ei chyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd i ganiatáu i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar ei chynigion. Gall pwyllgorau eraill y Senedd hefyd ystyried y gyllideb ddrafft cyn y bydd yn derfynol. Mae Gwasanaeth Ymchwil y Senedd wedi llunio Hysbysiad Hwylus ar Broses y Gyllideb yng Nghymru (PDF, 390KB).

 

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn amrywio ei chyllidebau terfynol drwy gyhoeddi un neu fwy o gyllidebau atodol y bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu arnynt cyn y cynnig y dylid eu cymeradwyo gan y Senedd.

 

Mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar brotocol y gyllideb (PDF, 342KB) ar gyfer yr egwyddorion sy’n sail i broses y gyllideb.

 

Gellir gweld yr holl wybodaeth o ran gwaith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft a chyllidebau atodol Llywodraeth Cymru isod:

 

Cyllideb Ddrafft 2021-22

Cyllideb Ddrafft 2020-21

Cyllideb Ddrafft 2019-20

Cyllideb Ddrafft 2018-19

Cyllideb Ddrafft 2017-18

Cyllideb Ddrafft 2016-17 (y craffwyd arni gan Bwyllgor Cyllid y Pedwerydd Cynulliad)

 

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2016

Dogfennau