Goruchwylio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru

Goruchwylio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru

O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11 ac adrannau perthnasol o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor Cyllid yn cynnwys ystyried amcangyfrif blynyddol o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ogystal ag unrhyw ddefnydd arall o adnoddau ganddynt, yn ogystal â chynghori eu harchwilwyr annibynnol. Mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor hefyd yn cynnwys goruchwylio penodi a diswyddo o ran swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru a bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, yn ogystal ag ystyried eu Cynlluniau Blynyddol, eu Cynlluniau Ffioedd, eu Hadroddiadau Blynyddol ac adroddiadau cysylltiedig eraill.

 

Gellir gweld dogfennau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r Pwyllgor Cyllid yn y meysydd hyn isod.

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Penodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru (PDF, 310KB)– 9 Medi 2020

 

Amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Ar 15 Mawrth 2017, rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybod i’r Pwyllgor Cyllid y byddai oedi wrth osod cyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2015 -16.

 

Adroddiad ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru – Gorffennaf 2017 (PDF, 536KB)

 

Adroddiad atodol: Penodi aelodau anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru – Awst 2017 (PDF, 54KB)

 

Cyflogaeth etc y cyn Archwilydd Cyffredinol: Adran 5(3) (PDF, 47KB)

 

Enwebu Archwilydd Cyffredinol Cymru – Mawrth 2018 (PDF, 595KB)

 

Penodi aelodau anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru (PDF, 369KB) - 28 Ionawr 2019

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2016

Dogfennau