Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru, a chynnydd yn hyn o beth.

 

Cododd y cynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (a adwaenir hefyd fel y Comisiwn Silk), yr oedd ei adroddiad cyntaf yn gwneud argymhellion o ran datganoli trethi penodol. Roedd Deddf Cymru 2014 yn rhoi rhai o argymhellion y Comisiwn ar waith, gan gynnwys rhoi pwerau i’r Cynulliad wneud cyfreithiau sy’n gosod treth ar drafodiadau tir ac ar waredu i safleoedd tirlenwi. Sefydlodd y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli trethi a ddatganolwyd yn sgîl Deddf Cymru.

 

Mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor hefyd yn cynnwys ystyried yr adroddiadau blynyddol ar waith a gweithrediad Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014 a osodir bob blwyddyn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

Cyhoeddwyd Bil Cymru Llywodraeth y DU yn 2016, a bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod goblygiadau ariannol y Bil hwn.

 

Gellir gweld dogfennau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r Pwyllgor Cyllid yn y meysydd hyn isod.

 

 

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2016

Dogfennau

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu