Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Inquiry_Stage_05.jpg

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn 2011 ac mae pedwar Cynllun Rheoli Traethlin yn rhoi gwell cipolwg i beryglon llifogydd ac erydu arfordirol gyda dulliau a awgrymir i reoli’r peryglon.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol ar 21 Gorffennaf 2016 yn ystyried y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Ystyriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a chynhaliodd ymchwiliad byr ar ddiwedd tymor yr hydref 2016.

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi’r adroddiad hwn ar ôl yr etholiadau Llywodraeth Leol ar 4 Mai 2017. Gan fod llawer o’r materion yn berthnasol i Awdurdodau Lleol, roeddem yn awyddus i roi cyfle llawn i’r Awdurdodau newydd ystyried ein hargymhellion. Yn dilyn y cyhoeddiad ar 18 Ebrill 2017 y byddai Etholiad Cyffredinol y DU yn cael ei gynnal ar 8 Mehefin 2017, cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r dyddiad cyhoeddi tan ar ôl yr etholiad hwn.

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru

28 Tachwedd 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1 (PDF 240KB)

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Llywodraeth Cymru

12 Rhagfyr 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2 (PDF 236KB)

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

 

 

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/07/2016

Dogfennau