Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Inquiry5

 

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cynnal ymchwiliad ôl-ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y Ddeddf).

 

Roedd rhagflaenydd y Pwyllgor yn y Pedwerydd Cynulliad, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn gyfrifol am graffu ar y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) cyn iddo gael ei ailenwi a dod yn Ddeddf. Cyflwynodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol adroddiad ar y Bil ym mis Tachwedd 2014.

 

Cylch gorchwyl

Edrychodd y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu darpariaethau'r Ddeddf a'i effaith hyd yma. Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor:

 

  • I ba raddau y mae'r dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gwella o ganlyniad i'r rhwymedigaethau yn y Ddeddf?

 

  • Beth yw'r dulliau mwyaf effeithiol o gasglu safbwyntiau a phrofiadau goroeswyr? A oes trefniadau ar waith i gasglu'r profiadau hyn, ac i ba raddau y caiff y wybodaeth ei defnyddio i helpu fel sail i weithredu darpariaethau'r Ddeddf?

 

  • A yw'r rhai sy'n goroesi camdriniaeth yn dechrau profi ymatebion gwell gan awdurdodau cyhoeddus o ganlyniad i'r Ddeddf, yn enwedig y rhai sydd angen gwasanaethau arbenigol?

 

  • A oes gan y Cynghorydd Cenedlaethol ddigon o bŵer ac annibyniaeth ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu?

 

  • I ba raddau y mae'r canllaw arfer da i berthnasau iach yn dylanwadu'n llwyddiannus ar y gwaith o ddatblygu dull ysgol gyfan i herio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?

 

 

Casglu tystiolaeth 

Cafodd y Pwyllgor 36 o gyflwyniadau ysgrifenedig, cynhaliodd chwe sesiwn tystiolaeth lafar ac ymwelwyd â 4 o brosiectau i gwrdd â darparwyr gwasanaethau a goroeswyr.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: A yw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn gweithio? (PDF 1.79 MB) yn Rhagfyr 2016.

 

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Canfuwyd, er y bydd y Ddeddf yn cyflawni gwelliannau o ran y ffordd y mae awdurdodau cyhoeddus yn cefnogi goroeswyr ac yn atal cam-drin, mae angen gwneud rhai gwelliannau ymarferol er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni ei nod o wella ymateb y sector cyhoeddus i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.”

 

Mae fersiwn gryno o’r adroddiad hefyd wedi’i chyhoeddi, a gellir ei darllen yma.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad (PDF 183 KB) yn Chwefror 2017, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Chwefror 2017.

 

Gwaith dilynol

 

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (PDF, 7.07MB) ar y Ddeddf, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ddilynol ar 6 Chwefror 2020.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu ychwanegol gyda’r Gweinidog ar 12 Chwefror 2020.

 

Diweddariad

 

Mae diweddariadau cyfnodol Llywodraeth Cymru ar gyflymder gweithredu’r Ddeddf i’w gweld isod.

 

Os bydd y Pwyllgor yn penderfynu cynnal rhagor o sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol, bydd yn cyfleu hyn ar ei dudalen hafan a thrwy ei gyfrif Twitter.

 

Cadw mewn cysylltiad

 

Os hoffech wybod rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen hafan, dilynwch ei gyfrif Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau