Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf

Gwybodaeth ddilynol am y parodrwydd ar gyfer gaeaf 2018

 

Craffodd y Pwyllgor ar gyrff y GIG a’r ADSS ar eu hymateb i bwysau’r gaeaf y llynedd, a’u paratoadau ar gyfer y gaeaf nesaf ar 19 Gorffennaf 2018.

 

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17

 

Inquiry5


Mae'r gaeaf bob amser yn gyfnod prysur i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roedd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ystyried pa mor barod oedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y gaeaf. 

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad 

 

Wrth geisio sicrwydd bod gan y GIG yng Nghymru yr adnoddau priodol i ymdopi â'r pwysau ar wasanaethau gofal heb ei drefnu dros y gaeaf sydd i ddod, roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn ystyried:

 

  • y pwysau cyfredol sy'n wynebu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, a pha mor barod yw'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y gaeaf 2016/17;
  • a fu digon o gynnydd yn y Pedwerydd Cynulliad o ran lleihau'r pwysau ar ofal heb ei drefnu drwy fynd ati i gynllunio mewn ffordd integredig ar gyfer y gaeaf ar draws gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau ambiwlans, a'r gwersi a ddysgwyd;
  • y camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau gofal brys ac argyfwng, a'r system gyfan, gan sicrhau bod GIG Cymru yn datblygu gwydnwch i'r galw tymhorol ac i wella ei sefyllfa ar gyfer y dyfodol.

 

Mae'r cylch gorchwyl wedi cynnwys ffocws ar lif cleifion (gan gynnwys gofal sylfaenol y tu allan i oriau, gwasanaethau ambiwlans brys, adrannau achosion brys, ac oedi wrth drosglwyddo gofal).

 

Casglu tystiolaeth

 

Mae'r Pwyllgor wedi ymgynghori ar y pwnc hwn. Mae’r ymatebion wedi’u cyhoeddi.

 

Adroddiad

 

Adroddiad ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 (PDF 942KB)

 

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 – casgliadau ac argymhellion (PDF 476KB)

 

Ymateb Llywodraeth Cymru – Ionawr 2017 (PDF 589KB)

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 1 Chwefror 2017.

 

Gohebiaeth ddilynol

 

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Mehefin 2017 (PDF 296KB)

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon at Gadeirydd y Pwyllgor – Gorffennaf 2017 (PDF 322KB)

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau