P-05-706 Sicrhau bod ein Cynghorau yn cael eu Hadfywio drwy Gyflwyno Tymor Sefydlog
P-05-706 Sicrhau bod ein Cynghorau yn cael eu Hadfywio drwy Gyflwyno Tymor Sefydlog
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Paul Stepczak ar ôl casglu 21 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rwy’n cynnig er mwyn sicrhau
bod ein cynghorau a’n cymunedau yn parhau i symud ymlaen, bod aelodau etholedig
o’r cabinet a’r cyngor yn cael parhau yn eu swyddi am uchafswm o 2 dymor (8
mlynedd) yn unig yn ein cynghorau lleol. Bydd hyn yn darparu cylch parhaus o
gynrychiolwyr lleol fydd yn dod â syniadau a brwdfrydedd newydd i’n cymunedau.
Bydd hefyd yn rhoi cyfle i Gymru ddatblygu cenhedlaeth newydd o wleidyddion
ifanc.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 13/09/2016.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Merthyr Tudful a Rhymni
- Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2016