Lobïo

Lobïo

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Inquiry_Stage_04.jpg

Cynhaliodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Pedwerydd Cynulliad adolygiad, a arweiniodd at adroddiad ar gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013, yn ystyried y gyfundrefn lobïo a oedd ar waith bryd hynny yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Argymhellodd y Pwyllgor hwnnw fod y Pwyllgor a fyddai’n ei olynu yn y Pumed Cynulliad yn trafod sut yr oedd deddfwriaeth y DU a deddfwriaeth yr Alban, ynghyd â’r dull a fabwysiadwyd yng Ngogledd Iwerddon o ymdrin a lobïo, yn gweithredu ac a oeddent yn gwireddu’r nod o fod yn fwy tryloyw.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i lobïo yn 2017 a chyhoeddodd adroddiad ym mis Ionawr 2018. Mae’r Pwyllgor yn monitro’r modd y mae argymhellion yr adroddiad yn cael eu rhoi ar waith.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau