Y Fenter Twyll Genedlaethol
Y Fenter Twyll Genedlaethol
Ers
cychwyn y Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol (y Fenter) ym 1996, mae ei
hymarferion wedi canfod twyll a gordaliadau gwerth mwy na £35 miliwn yng Nghymru.
Mae’r gordaliadau a nodwyd yn cynnwys symiau o arian sydd eisoes wedi’u talu ac
amcanestyniadau, lle mae’n rhesymol tybio y byddai twyll, gordaliadau a gwall
wedi parhau heb waith cymharu data gan y Fenter yn archwilio data ar draws
sefydliadau a systemau er mwyn cynorthwyo cyrff cyhoeddus i ddarganfod
hawliadau a thrafodion a allai fod yn dwyllodrus neu’n wallus. Cynhelir yr
ymarfer hwn bob dwy flynedd.
Cyfnod yr
ymarfer diweddaraf oedd 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2018. Dyma un o ymarferion
mwyaf llwyddiannus y Fenter hyd yn hyn, gan ddatgelu twyll a gordaliadau gwerth
£5.4 miliwn ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o’i gymharu â £4.4
miliwn ym 1996.
Mae’r
ymarfer fenter, a gynhelir bob dwy flynedd, yn cymharu data ar draws
sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi hawliadau a thrafodion a
allai fod yn rhai o dwyll neu wall. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn
cydweithredu ar y Fenter gyda Swyddfa’r Cabinet, Swyddfa Archwilio yr Alban a
Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon i gymharu data ar draws 13,000 o sefydliadau
yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Er bod gan
bob awdurdod cyhoeddus unedol, yr heddlu, gwasanaethau tân a chyrff y GIG yng
Nghymru fandad i gymryd rhan yn y Fenter, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn annog
pob corff a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru i gymryd rhan yn wirfoddol ac am
ddim.
Trafododd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr
adroddiad ym mis Tachwedd 2018 a chytunodd i gyd-weithio gydag Archwilydd
Cyffredinol Cymru ar waith Gwrdd-Dwyll yn y Sector Cyhoeddus.
Ar 1
Gorffennaf 2019, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad addysgiadol a chynhwysol ar
y pwnc ar gyfer rhanddeiliaid. Cyflwynwyd y ddigwyddiad gan gydweithwyr yn y
sector cyhoeddus ynghyd â chynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn rhannu
cymorth, arfer da a gwybodaeth am wrth-dwyll yn y sector cyhoeddus. Ystyriwyd y
canlynol yn ystod y digwyddiad:
- sut mae
sefydliadau allweddol (Llywodraeth Cymru, yr heddlu, y GIG, Llywodraeth
leol, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), yr
Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ac ati) yn rhyngweithio ac yn hyrwyddo
diwylliant a pholisi gwrth-dwyll a gwrthlygredd effeithiol ar draws y
sector cyhoeddus yng Nghymru;
- sut ac i ba
raddau y mae adnoddau yn cael eu dyrannu i ganfod ac atal twyll a llygredd
yn y cyrff a archwilir gan yr Archwilydd Cyffredinol yng nghyd-destun
pwysau ariannol ehangach; a
- mesur
cyfanswm yr hyn a gollir ar draws y cyrff a archwilir oherwydd twyll a
llygredd a defnyddio dull astudiaeth achos i ddadansoddi achosion o
golledion sylweddol.
Mae cyflwyniadau
o’r digwyddiad (yn Saesneg yn unig) ar gael i’w gweld isod:
Cyhoeddodd yr
Archwilydd Cyffredinol adroddiad
pellach, sef ‘Gwella ein
Perfformiad’ - Mynd i’r Afael â Thwyll yng Nghymru, ym mis Gorffennaf 2020 a
chyhoeddwyd adroddiad ar ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedaethol ym mis
Hydref 2020. Bu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried canfyddiadau’r ddau
adroddiad yn ystod ei waith craffu ar gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru
2019-20 yn ystod hydref 2020.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016
Dogfennau