Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad, sef Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai ym mis Mawrth 2011. Canfu fod gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai yng Nghymru wedi gwella ers 2002, ond bod angen gwneud mwy i wella gofal maethol ar gyfer cleifion mewn ysbytai.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i'r mater hwn. Roedd y Pwyllgor yn falch o weld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers i wasanaethau arlwyo ysbytai fod yn destun archwiliad perfformiad ddiwethaf yn 2002. Roedd y Pwyllgor yn siomedig bod amrywiaeth eang yng nghostau, gwaith cynllunio a'r ddarpariaeth o wasanaethau arlwyo ledled sefydliadau'r GIG yng Nghymru o hyd, yn arbennig pan fo Llywodraeth Cymru yn derbyn pwysigrwydd maeth da yn cefnogi gwellhad cleifion yn ei hamcanion polisi. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio y bydd y gostyngiad yn nifer y sefydliadau GIG yng Nghymru yn caniatáu ar gyfer cyfnewid mwy effeithiol o arfer da sydd yna'n arwain at ddull mwy safonol o ddarparu'r elfen hanfodol hon o ofal mewn ysbyty.

 

Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad (PDF 755KB) dilynol ym mis Medi 2016 a chafodd ei ystyried gan y Pwyllgor ar 19 Medi 2016. O'r drafodaeth honno, cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad dilynol byr a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Mawrth 2017. Mae’r Pwyllgor yn parhau i fonitro’r cynnydd o ran gweithredu argymhellion yr Adroddiad ac mae’n cael y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn rheolaidd.

 

Cafodd weithrediad yr argymhellion terfynol eu gyflawni ym mis Tachwedd 2019.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Byrddau Iechyd

Lynda Williams –BLP Cwm Taf

Anthony Haywood – BLP Cwm Taf

Rhiannon Jones –Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Helen Ward –BLP Aneurin Bevan

Colin Phillpott – BLP Aneurin Bevan

17 Hydref 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1 (PDF 44KB)

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall

Yr Athro Jean White

17 Hydref 2016

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2 (PDF 44KB)

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

 

Gwyliwch Lee Waters yn siarad am ganfyddiadau'r adroddiad

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau