P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt
P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Whizz-Kidz, Cardiff
Ambassador Club, ar ôl casglu 22 llofnod ar lein a 75 llofnod bapur = 97
llofnod
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl [ifanc] anabl yn cael yr hawl i
drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch pan fo’i hangen heb yr angen i gynllunio cymorth
o leiaf 24 awr ymlaen llaw. Bydd hyn yn ein galluogi i fod yn annibynnol,
chwilio am swydd, teithio i’r gwaith a chwrdd â ffrindiau ar fyr rybudd. Mae
Llysgenhadon Whizz-Kidz hefyd yn ymgyrchu i sicrhau hyfforddiant hanfodol mewn
ymwybyddiaeth o anabledd a chymorth ym maes anabledd, ar gyfer gyrwyr tacsis a
bysiau yn ogystal â staff ar drenau.
Gwybodaeth
ychwanegol
Mae pobl ifanc yng Nghlwb Llysgenhadon Caerdydd wedi
gweithio’n galed i ymgyrchu i wella trafnidiaeth gyhoeddus. Mae pob un ohonynt
wedi cael anhawster gyda thacsis, bysiau a threnau dros y blynyddoedd ac mae eu
hannibyniaeth yn cael ei gyfaddawdu am nad ydynt yn gallu teithio yn ôl yr
angen. Er eu bod yn cydnabod bod gwelliannau wedi’u gwneud, mae llawer o waith
i’w wneud o hyd.
Trosglwyddo deiseb yn y
Senedd
Statws
Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd. Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016.
Darparodd Whizz-Kids y fideo a ganlyn i’r Pwyllgor cyn
sesiwn dystiolaeth anffurfiol a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2017: https://youtu.be/HRm040aidNE
Gwyliwch stori Josh, un o’r deisebydd, i weld ei brofiad
o ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghymru: https://youtu.be/Lmf4IERRG-Q
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2016
Dogfennau