P-05-712 Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn Sicrhau Llais Clir, Strategol ac Atebol i Gymru yn y Trafodaethau Parhaus
P-05-712 Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn Sicrhau Llais Clir, Strategol ac Atebol i Gymru yn y Trafodaethau Parhaus
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tegid Roberts, ar ôl casglu
22 llofnod ar lein
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i greu Adran Ewrop fel mater o frys, â'r dasg o ddeall a
datblygu strategaeth ar gyfer ymgysylltiad parhaus Cymru â'r UE a'n perthynas â
phartneriaid yn Ewrop yn y dyfodol.
Ers y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ymateb
Llywodraeth y DU wedi bod yn araf ac yn amwys - cafodd
uned o fewn swyddfa'r Cabinet ar gyfer gadael yr UE ei gynnig yn wreiddiol ac
yna'i ddisodli gan swydd newydd, sef Gweinidog dros adael yr UE, rôl sy'n
ymddangos i fod â diffyg amcanion clir, ac sy'n cael ei arwain gan AS sydd wedi
treulio'r 20 mlynedd diwethaf ar y meinciau cefn.
Yng Nghymru, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn
dawel a dweud y lleiaf, ac mae'n bryd nawr bod Cymru ei hun yn cymryd camau fel
bod y trafodaethau rhwng y DU a gweddill yr UE yn esmwyth a bod gan Gymru -
buddiolwr net o aelodaeth â'r UE - rôl bendant wrth lunio ein perthynas gyda'r
UE yn y dyfodol. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Lloegr a'r Alban yn
dominyddu'r holl drafodaethau gyda'r UE ehangach. Heb gynllun gweithredu
strategol penodol gan Lywodraeth Cymru, mae'r sefyllfa hon yn debygol o barhau.
Dylai fod gan yr Adran hon Ysgrifennydd Cabinet cryf sydd â phrofiad o weithio yn
Ewrop ac sy'n gallu gweithio ar draws yr holl adrannau. Dylai'r Ysgrifennydd
gael cefnogaeth gan bwyllgor trawsbleidiol i graffu ar bob maes ymgysylltu
presennol ac i helpu i lunio ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Dylai'r
pwyllgor hwnnw, yn ei dro, gael cyngor gan grŵp o gynghorwyr arbenigol
allanol o'r sectorau cyfreithiol, economaidd, busnes, amaethyddol, diwylliannol
ac academaidd.
Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn sicrhau
llais clir, strategol ac atebol i Gymru yn y trafodaethau parhaus. Rydym hefyd
angen llais cryf yn Ewrop ar ôl gadael yr UE i sicrhau ein bod yn parhau i elwa
a chyfrannu at y meysydd yr ydym eisoes yn cymryd rhan ynddynt ac yn datblygu
perthynas gyda'r UE yn y sectorau nad ydym yn hyn o bryd yn ymwneud yn llawn â
hwy.
Arwydd
Llywodraeth Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 19/09/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog a chytunodd i
gau'r ddeiseb gan fod trefniadaeth Llywodraeth Cymru yn fater i'r Prif Weinidog
a chan fod gwybodaeth yn cael ei darparu'n rheolaidd yn ystod trafodion eraill
y Cynulliad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r broses o adael yr UE. Wrth wneud hynny, ystyriodd yr Aelodau
sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, a oedd yn
cydnabod, yn ôl pob golwg, nad oedd hi'n werth parhau â'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/10/2016
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2016