Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR)
Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR)
Bydd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried yr Adroddiad ar
Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud
yn ofynnol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi a chyhoeddi Adroddiad ar
Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn unol â'r amserlen
ddeddfwriaethol a ddarparwyd yn y Ddeddf. Sail tystiolaeth yw’r Adroddiad ar
Sefyllfa Adnoddau Naturiol i ddarparu gwybodaeth am gyflwr presennol ein
hadnoddau naturiol. Wrth wneud hynny, bydd yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael
sydd ei hangen ar Weinidogion Cymru i bennu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu
yn genedlaethol.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi Adroddiad ar
Sefyllfa Adnoddau Naturiol bob pum mlynedd. Yr unig eithriad fydd yr ail
adroddiad a gyhoeddir bedair blynedd ar ôl y cyntaf er mwyn sicrhau ei fod yn
unol â chylch etholiadau arferol y Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Deddf
Cymru 2006..
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/12/2017
Dogfennau