Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR)

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR)

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi a chyhoeddi Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn unol â'r amserlen ddeddfwriaethol a ddarparwyd yn y Ddeddf. Sail tystiolaeth yw’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol i ddarparu gwybodaeth am gyflwr presennol ein hadnoddau naturiol. Wrth wneud hynny, bydd yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael sydd ei hangen ar Weinidogion Cymru i bennu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn genedlaethol.

 

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol bob pum mlynedd. Yr unig eithriad fydd yr ail adroddiad a gyhoeddir bedair blynedd ar ôl y cyntaf er mwyn sicrhau ei fod yn unol â chylch etholiadau arferol y Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Deddf Cymru 2006..

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/12/2017

Dogfennau