Ymchwiliad i recriwtio meddygol

Ymchwiliad i recriwtio meddygol

Inquiry5

 

Fel rhan o’i raglen waith ar ba mor gynaliadwy yw’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, cytunodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i gynnal ymchwiliad byr yn canolbwyntio’n benodol ar recriwtio staff meddygol. Dilynodd hyn o ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad ar y gweithlu meddygon teulu, a chafodd ei lywio hefyd gan ymgynghoriad ac arolwg y Pwyllgor a gynhaliwyd dros yr haf 2016.

Disgwylir y bydd darnau pellach o waith drwy gydol y Pumed Cynulliad yn ystyried materion sy'n ymwneud â'r gweithlu iechyd a gofal yn ehangach.


Cylch gorchwyl:

Gofyn am farn tystion ar y canlynol:

  • Capasiti'r gweithlu meddygol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, yng nghyd-destun newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau a datblygu modelau newydd o ofal.
  • Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol.
  • Y ffactorau sy'n dylanwadu ar recriwtio a chadw meddygon, gan gynnwys unrhyw faterion penodol mewn arbenigeddau penodol neu ardaloedd daearyddol.
  • Datblygu a chyflwyno ymgyrchoedd recriwtio meddygol, gan gynnwys y graddau y mae rhanddeiliaid perthnasol yn cael eu cynnwys, a dysgu o ymgyrchoedd blaenorol ac arfer da mewn mannau eraill.
  • Y graddau y mae prosesau/arferion recriwtio yn gydgysylltiedig, yn cynnig gwerth am arian ac yn sicrhau gweithlu meddygol cynaliadwy.

 

Casglu tystiolaeth

Roedd y Pwyllgor wedi gwahodd safbwyntiau ar y mater hwn. Mae’r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.

 

Adroddiad

Adroddiad ar ymchwiliad i recriwtio meddygol – Mehefin 2017 (PDF 1MB)

Ymateb Llywodraeth Cymru – Medi 2017 (228KB)

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

 Cynhaliwyd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Medi 2017.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau