Trafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

Trafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

Yn y Pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid blaenorol ymgynghoriad yngylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru drafft.

 

Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ystyried ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PDF, 876KB) ac argymhellodd y dylid cyflwyno Bil i’r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ymgynghori ar Fil drafft newydd a fyddai’n ailddeddfu llawer o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ond gyda darpariaethau newydd a argymhellwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad.

 

Adroddodd y Pwyllgor (PDF, 1MB) ym mis Mawrth 2016 ac argymhellodd y dylai Pwyllgor yn y dyfodol gyflwyno’r Bil drafft cyn gynted â phosibl, yn y Pumed Cynulliad.

 

Ar 2 Hydref 2017, cyflwynodd y Pwyllgor Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2016

Dogfennau