Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynhaliodd y Pwyllgor blaenorol ymchwiliad i’r trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Monitrodd yn agos y gwaith o weithredu’r argymhellion yn ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2013 drwy dderbyn diweddariadau ysgrifenedig a llafar gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru, a thrwy drafod adroddiadau pellach gan yr Archwilydd Cyffredinol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Roedd y gwaith monitro hwn yn gyfle i’r Pwyllgor drafod sut y mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r ffaith y cafodd ei roi o dan fesurau arbennig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mehefin 2015. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cyfnod o fesurau arbennig yn debygol o bara tan fis Mehefin 2019 o leiaf.

Mae’r Pwyllgor wedi derbyn argymhelliad yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor blaenorol i baratoi i fonitro cynnydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau.

 

Yn dilyn gohebiaeth a ddaeth i law, cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiynau tystiolaeth yn ystod gwanwyn 2019 â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i edrych ar y gwaith gweithredu a’r cynnydd a wnaed o argymhellion blaenorol y Pwyllgor, gan gynnwys rheoli iechyd meddwl y bwrdd iechyd, yn dilyn cyfres o adolygiadau a wnaed, a hefyd i archwilio cymorth ac ymyrraeth ehangach Llywodraeth Cymru.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/10/2016

Dogfennau