Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Cynhaliodd y Pwyllgor
blaenorol ymchwiliad i ofal heb ei drefnu. Cyhoeddodd ddau adroddiad yn 2013
a 2015
a pharhaodd i olrhain cynnydd yn y maes hwn.
Bu’r Pwyllgor
yn trafod diweddariad gan Lywodraeth Cymru yn yr hydref yn 2016 ynghylch y
camau a gymerwyd i gyflawni argymhellion y Pwyllgor blaenorol ynghylch gofal
iechyd parhaus y GIG, chafodd ddiweddariad ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf o
ran prosesu hawliadau ôl-weithredol.
Gwnaeth Aelodau nodi’r diweddariad hwn a’r ffaith y bydd
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn trafod y ffordd y mae pob bwrdd iechyd yn
rheoli hawliadau pan fyddant yn cael eu dychwelyd o Bowys yn ystod ei
adolygiadau blynyddol o’r byrddau iechyd.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/10/2016