Gwasanaethau Orthopedig

Gwasanaethau Orthopedig

Nododd y Pwyllgor blaenorol Adolygiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i Wasanaethau Orthopedig, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2015.

Ymchwiliodd yr adolygiad ffyrdd cenedlaethol a lleol o ymdopi â’r galw am wasanaethau orthopedig ac asesodd hefyd i ba raddau y datblygwyd modelau cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau i helpu i ddiwallu galw yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod gwasanaethau orthopedig wedi dod yn fwy effeithlon dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae hefyd yn nodi nad yw GIG Cymru mewn sefyllfa dda i ddiwallu galw yn y dyfodol oherwydd, er canolbwyntiwyd ar sicrhau gostyngiadau uniongyrchol mewn amseroedd aros, rhoddwyd llai o sylw i ddatblygu atebion hirdymor mwy cynaliadwy i ddiwallu’r galw.

Trafododd y Pwyllgor y canlyniadau hyn gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017. Derbyniodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn ystod tymor yr hydref 2017 a chafwyd diweddariadau monitro cyson yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf 2018.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Frank Atherton - Prif Swyddog Meddygol

Andrew Carruthers - Cyfarwyddwr Cyflawni Rhaglen

23 Ionawr 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/10/2016

Dogfennau