Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol
Cafodd y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol ei gyflwyno yn Nhŷ’r
Arglwyddi ar 19 Mai 2016. Bil Llywodraeth y DU ydoedd, ac fe’i noddwyd gan yr
Adran dros Addysg. Roedd y Bil yn ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal, lles
plant, a’r drefn reoleiddio ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.
Roedd y Bil yn ddarostyngedig
i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dilynir y broses hon mewn
achosion lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd
Cymru i ddeddfu ar fater a allai
ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol (PDF, 18KB) ar 13 Hydref 2016. Ar 18 Hydref
2016, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn ei gyfeirio
gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 52KB) at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad arno oedd 24 Tachwedd 2016. Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg ei adroddiad
ar y Memorandwm (PDF, 355KB) ar 22 Tachwedd
2016. Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y
Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd
2016.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gwaith
Cymdeithasol (PDF, 20KB) ar 10 Tachwedd
2016. Ar 15 Tachwedd 2016, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol
hwn ei gyfeirio
gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno adroddiad arno oedd 8 Rhagfyr 2016. Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ei adroddiad (PDF, 104KB) ar y Memorandwm
atodol ar 5 Rhagfyr 2016. Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol
ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr
2016.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/10/2016
Dogfennau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol - 13 Hydref 2016 (PDF, 57KB)
- Yr amserlen ar gyfer ystyried Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol - 20 Hydref (PDF, 54KB)
- Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Plant a Gofal Cymdeithasol - 22 Tachwedd 2016 (PDF, 371KB)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol - 10 Tachwedd 2016 (PDF, 20KB)
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol - 15 Tachwedd 2016 (PDF, 52KB)
- Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol - 5 Rhagfyr 2016 (PDF, 111KB)