Tuberculosis mewn gwartheg yng Nghymru

Tuberculosis mewn gwartheg yng Nghymru

Ar ôl cyhoeddi dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘Strategaeth o’r newydd ar gyfer Dileu TB’, penderfynodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gynnal ymchwiliad byr i edrych ar effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol ac ystyried cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

Diben yr ymchwiliad oedd:

 

  • asesu’r dystiolaeth y tu ôl i’r dulliau rheoli a dileu a nodir yn rhaglen dileu TB gwartheg newydd Llywodraeth Cymru drwy gymharu â’r dulliau a ddefnyddir y tu allan i Gymru; ac
  • asesu a oes digon o drefniadau monitro a gwerthuso ar waith i sicrhau y gellir dangos effeithiolrwydd y rhaglen a gwerth am arian yn y dyfodol.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan randdeiliaid yn ei gyfarfod ar 10 Tachwedd 2016 ac ar 8 Rhagfyr 2016. Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2016.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad ar y rhaglen o’r newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Dileu TB (PDF 890KB) ar 23 Mai 2017 ac ymatebodd (91KB) Llywodraeth Cymru ar 20 Mehefin 2017.

Math o fusnes: Arall

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/01/2017

Dogfennau