Yr Ardoll Brentisiaethau yng Nghymru

Yr Ardoll Brentisiaethau yng Nghymru

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Inquiry_Stage_05.jpg

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cynnal ymchwiliad i’r Ardoll Brentisiaethau.

 

Crynodeb

Nod yr ymchwiliad oedd clywed barn cyflogwyr am effaith Ardoll Brentisiaethau'r DU, i nodi unrhyw faterion trawsffiniol ac i ystyried adwaith cyflogwyr a rhanddeiliaid i ymateb y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth i'r ardoll ac ariannu prentisiaethau yng Nghymru.

 

Cefndir

Mae disgwyl i Ardoll Brentisiaethau'r DU, sy'n ardoll Llywodraeth y DU, ddod i rym ar 6 Ebrill 2017. Bydd pob cyflogwr (cyhoeddus a phreifat) sydd â bil cyflog o fwy na £3 miliwn y flwyddyn yn talu'r ardoll. Mae cyfradd yr ardoll yn 0.5% o fil cyflog y cyflogwr yn seiliedig ar gyfanswm enillion y gweithwyr heb gynnwys taliadau, fel buddion mewn nwyddau. Bydd cyflogwyr yn derbyn lwfans ardoll o £15,000 y flwyddyn i'w osod yn erbyn yr ardoll a delir i Gyllid a Thollau EM drwy'r cynllun talu wrth ennill.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y materion canlynol:

  • Beth yw'r goblygiadau o ran cyflwyno Ardoll Brentisiaethau'r DU i gyflogwyr yng Nghymru?
  • A fydd goblygiadau gwahanol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a chyflogwyr yn y sector preifat?
  • A oes goblygiadau penodol i gyflogwyr sy'n gweithredu yng Nghymru a ledled y DU (nad ydych wedi cyfeirio atynt yn eich ymateb yn barod)?
  • Os oes gennych bryderon am ariannu prentisiaethau ar ôl cyflwyno ardoll y DU, beth hoffech chi i Lywodraeth Cymru ei wneud i ymdrin â'ch pryderon?
  • Beth, os unrhyw beth, yw'r materion sy'n ymwneud â materion cyllid a pholisi trawsffiniol sy'n codi o gyflwyno'r Ardoll Brentisiaethau (nad ydych wedi cyfeirio atynt yn eich ymateb yn barod)?
  • A oes gennych unrhyw farn ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â chyflogwyr o ran yr Ardoll Brentisiaethau?
  • A oes gennych unrhyw sylwadau cyffredinol neu bryderon ynghylch y  system bresennol o ran ariannu prentisiaethau yng Nghymru? Beth ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â phryderon yr ydych wedi eu nodi?

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2016

Dogfennau