Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil

Cafodd y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 19 Mai 2016. Bil Llywodraeth y DU ydoedd, ac fe’i noddwyd gan yr Adran dros Addysg. Roedd y Bil yn ymwneud ag addysg uwch ac ymchwil, ac roedd yn gwneud darpariaeth ynghylch taliadau amgen i fyfyrwyr mewn addysg uwch neu addysg bellach.

Roedd y Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dilynir y broses hon mewn achosion lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Addysg Uwch ac Ymchwil (PDF, 165KB) ar 17 Tachwedd 2016. Ar 22 Tachwedd 2016, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno oedd 12 Ionawr 2017. Gosodwyd Memorandwm diwygiedig (PDF, 169KB) gan Lywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2016. Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar y Memorandwm diwygiedig (PDF, 589KB) ar 12 Ionawr 2017.

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â'r Bil Addysg Uwch ac Ymchwil (PDF, 101KB) ar 5 Ionawr 2017. Ar 10 Ionawr 2017, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol hwn ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno oedd 9 Chwefror 2017. Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar y Memorandwm atodol ar 9 Chwefror 2017.

Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror 2017.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2016

Dogfennau