Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Economi Ddigidol

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Economi Ddigidol

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Yn gryno, mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus penodedig, gan gynnwys y rhai yng Nghymru, i rannu data at ddibenion gwella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, yn ddarostyngedig i amodau penodol. Mae hyn yn cynnwys rhannu data i gefnogi targedu cynlluniau cymorth tlodi tanwydd.

 

Ar 24 Tachwedd 2016, gosododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Economi Ddigidol.

 

Cymeradwywyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Economi Ddigidol yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/11/2016

Dogfennau