P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi
P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sue Waterson ar ôl
casglu 66 llofnod bapur
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru
i annog Llywodraeth Cymru i atal gwerthu’r tir a’r ffordd fynediad y tu ôl i
eiddo 1 i 67 Park View Terrace, Abercwmboi hyd nes y ceir sylwadau gan y
gymuned leol, a hyd nes y caiff opsiynau eraill eu hystyried. Mae’r gwerthiant
hwn yn mynd rhagddo heb hysbysu nac ymgynghori â’r bobl hynny a gaiff eu
heffeithio gan werthiant o’r fath.
Yn ei gyfarfod ar 13/11/2018
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/01/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/11/2016