P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru.

P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru.

Wedi'i gwblhau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mohammed Sarul Islam ar ôl casglu 202 llofnod bapur.

Geiriad y deiseb

Rydym ninnau sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau'r 22 o gynghorau yng Nghymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Yng ngoleuni’r cynnig ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i roi dewis i awdurdodau lleol o ran y system etholiadol a ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol, a’r gwaith craffu a gaiff ei gymhwyso i hyn gan y Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb .

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/01/2017.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad:

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2016