NDM6182 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6182 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6182
Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Datganiad yr
Hydref Llywodraeth y DU;
2. Yn cydnabod y
cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar £436 miliwn yn ychwanegol erbyn
2020-21 i'w chyllidebau cyfalaf o Ddatganiad yr Hydref;
3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth y DU yn codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £7.50 i gefnogi swyddi ac
enillion ledled y DU;
4. Yn nodi ymhellach y
bydd y trothwy Lwfans Personol a Chyfradd Uwch yn codi i £12,000 a £50,000 yn y
drefn honno erbyn 2020-21, gan leihau'r bil treth incwm i 1.4 miliwn o
unigolion yng Nghymru erbyn 2017-18.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/12/2016
Angen Penderfyniad: 7 Rhag 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS