NDM6181 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6181 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6181
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Gareth
Bennett (Canol De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynigion gan
Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn
Lloegr.
2. Yn gresynu bod
tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
(a) cymryd camau i
ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban;
(b) cyflwyno
deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan sicrhau na
ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar:
(i) tenantiaid, drwy
godi rhenti artiffisial uwch; a
(ii) landlordiaid
preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu rhentwyr ar yr
ysgol eiddo.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/12/2016
Angen Penderfyniad: 7 Rhag 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Neil Hamilton AS