Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru
Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru
Cynhaliodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yr ymchwiliad hwn er mwyn:
- Asesu dulliau o reoli ardaloedd morol gwarchodedig
Cymru er mwyn nodi cyfleoedd i wneud y gorau o’r manteision economaidd,
cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a all ddeillio ohonynt.
- Deall sut y
bydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar
ardaloedd morol gwarchodedig a nodi unrhyw faterion y bydd angen mynd i'r
afael â nhw yn ystod y broses honno.
Casglu
tystiolaeth
Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei waith, ar 1
Chwefror 2017, 30
Mawrth 2017 a 5
Ebrill 2017. Ar 14
Mehefin 2017, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn tystiolaeth gyda Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor
ei adroddiad: Y
Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli
Ardaloedd Morol Gwarchodedig (PDF 1MB) ar 7 Awst 2017. Ymatebodd
(PDF 220KB) Llywodraeth Cymru ar 30 Hydref 2017.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2016
Dogfennau
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - 06 Medi 2018 PDF 3 MB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd - 03 Hydref 2017 PDF 413 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru
- Adroddiad y Pwyllgor - Y Llanw'n troi?
- Gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg yn unig) - 20 Gorffennaf 2017 PDF 806 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – 8 Mawrth 2017 PDF 63 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Brif Weithredwr Fforwm Arfordir Sir Benfro (Saesneg yn unig) – 8 Mawrth 2017 PDF 66 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Gadeirydd Fforwm Arfordir Sir Benfro (Saesneg yn unig) – 8 Mawrth 2017 PDF 66 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Cyngor Sir Benfro (Saesneg yn unig) - 8 Mawrth 2017 PDF 66 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Bennaeth Is-adran y Môr a Physgodfeydd, Llywodraeth Cymru – 8 Mawrth 2017 PDF 71 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro (Saesneg yn unig) – 8 Mawrth 2017 PDF 59 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)
- Gwaith dilynol ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)