Polisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru

Polisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru

Inquiry_Stage_05-w

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad er mwyn asesu sut mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei strategaeth Coetiroedd i Gymru o ran y pedair thema a nodir yn y strategaeth, sef:

 

  • ymateb i'r newid yn yr hinsawdd – dygymod â’r newid yn yr hinsawdd, a helpu i leihau’n hôl troed carbon
  • coetiroedd i bobl – diwallu anghenion lleol yng nghyd-destun iechyd, addysg a swyddi
  • sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig – diwydiannau arloesol, â sgiliau da, yn cyflenwi cynnyrch adnewyddadwy o Gymru
  • ansawdd yr amgylchedd – gwneud cyfraniad cadarnhaol i fioamrywiaeth, tirweddau a threftadaeth, a lleihau pwysau eraill ar yr amgylchedd.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd (PDF 1 MB) ar 28 Gorffennaf 2017.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o’r adroddiad:

Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd (PDF 3 MB)

 

Ymatebodd (PDF  Llywodraeth Cymru ar 20 Medi 2017.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/02/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau