P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid
P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Shelter Cymru ar ôl casglu 328 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn
galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar yr
arfer annheg o godi ffioedd asiant gosod ar denantiaid.
Yn gynharach eleni, bu
cefnogwyr ymgyrch Shelter Cymru siopa yn gwsmeriaid cudd i asiantau gosod
ledled Cymru a chanfuont nad yw mwy na hanner (55%) yn hysbysebu ffioedd ar eu
gwefannau fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Canfu’r astudiaeth y gallai tenant
dalu rhwng £39.99 a £480 am yr un gwasanaeth, gan ddibynnu pa asiant oedd eu
landlord wedi dewis ei ddefnyddio.
Y realiti yw nad oes y fath
beth â dewis i ddefnyddwyr gyda ffioedd tenantiaid, ac mae perygl gwirioneddol
bod tenantiaid a landlordiaid yn gorfod talu dwywaith am yr un gwasanaeth.
Rydym yn credu y dylai Cymru ddilyn esiampl yr Alban a gwahardd ffioedd i denantiaid.
Mae’r sector rhentu preifat yn yr Alban yn dal i ffynnu ac mae tri chwarter o
asiantau'r Alban yn dweud bod y gwaharddiad heb gael unrhyw effaith, neu wedi
cael effaith gadarnhaol, ar eu busnes.
Mae asiantau gosod Cymreig yn
mwynhau twf mewn busnes oherwydd Rhentu Doeth Cymru, sy’n annog landlordiaid
llai i gofrestru ag asiantau. Fodd bynnag, mae ffioedd gosod gormodol yn gwthio
tenantiaid i ddyled a’i gwneud yn fwy anodd i awdurdodau lleol atal
digartrefedd. Gweithredwch yn awr i roi bargen deg i’r nifer cynyddol o rentwyr
preifat yng Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau. Bu’r Pwyllgor yn trafod sylwadau pellach gan y deisebydd a
chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y mater
hwn a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch. Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/02/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Abertawe
- Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2017