Adolygiad o'r Cod Ymddygiad, y Rheolau Sefydlog a'r Weithdrefn Gwyno
Adolygiad o'r Cod Ymddygiad, y Rheolau Sefydlog a'r Weithdrefn Gwyno
Ymgymerodd y
Comisiynydd Safonau â gwaith ar y Rheolau Sefydlog, Cod Ymddygiad a chanllawiau
cysylltiedig mewn perthynas â Buddiannau y dylid eu cofrestru yn dilyn cytundeb
gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar 9 Gorffennaf 2013. Cyflwynodd y Comisiynydd
adroddiad yn cynnwys nifer o newidiadau arfaethedig. Cafodd yr adroddiad hwn ei
drafod a’i gytuno gan y Pwyllgor
ar 1 Gorffennaf 2014.
Math o fusnes: Trefn y trafodion
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/03/2015