P-05-735 Gwneud y cyfnod sylfaen yn fwy effeithiol ar gyfer ein plant, darparu mwy o athrawon a dileu y TASau blwyddyn 2.
P-05-735 Gwneud y cyfnod sylfaen yn fwy effeithiol ar gyfer ein plant, darparu mwy o athrawon a dileu y TASau blwyddyn 2.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Tamsin Osborne ar ôl casglu 14 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Hoffwn i Gynulliad Cymru
roi'r gorau i siomi ein plant yn y Cyfnod Sylfaen.
Dylai ddilyn esiampl systemau
addysg mwyaf llwyddiannus Ewrop, fel yn y Ffindir a Sgandinafia.
Dylai ddarparu hyfforddiant a
chyllid i ysgolion ar gyfer sicrhau cymarebau priodol rhwng athrawon a phlant,
er mwyn cyflawni addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn effeithiol.
Galwaf am ddiddymu'r TASau, sef
y profion gwladol, yn y Cyfnod Sylfaen. Yn syml, nid ydynt yn cyfateb ag ethos
y Cyfnod Sylfaen.
Gwybodaeth ychwanegol
Rydym wrth ein bodd gydag ethos
y cyfnod sylfaen. Mae ymagwedd y Cynulliad yn chwa o awyr iach, ac yn unol â
sawl darn o waith ymchwil sy'n cefnogi chwarae a arweinir gan blant hyd at
saith oed. Fodd bynnag, mae'n anffodus bod addysgeg y cyfnod sylfaen yn cael ei
cholli mewn llawer o ysgolion ledled Cymru. Mae hyn oherwydd diffyg
hyfforddiant mewn darpariaeth chwarae yn y blynyddoedd cynnar; hyd yn oed pe
bai gan yr athro yr hyfforddiant, yr angerdd a'r ddealltwriaeth i ddarparu
addysgeg y cyfnod sylfaen, mae'r cymarebau rhwng yr athrawon a'r plant yn ei
gwneud bron yn amhosibl. Sut y gall unrhyw athro ddilyn plentyn wrth iddo
chwarae pan mae hyd at 30 o blant yn y dosbarth hwnnw, gyda dim ond un
cynorthwy-ydd addysgu i gefnogi pob un o'r plant hynny wrth iddynt chwarae,
darganfod a dysgu?
Nid ydym yn credu bod gan y
TASau, sef y profion gwladol, unrhyw le yn y cyfnod sylfaen yng Nghymru. Mae'r
cyfnod sylfaen yn ymwneud â chefnogi plant wrth iddynt chwarae:
I ddatblygu sgiliau echddygol
bras drwy symud,
I ddatblygu sgiliau echddygol
mân sy'n angenrheidiol ar gyfer ysgrifennu,
I gymryd risgiau a dysgu
cyfrifoldeb,
I roi'r amser sydd ei angen
arnynt i ddatblygu blociau adeiladu solid ar gyfer iaith a rhifedd,
I gael cyfleoedd i edrych yn ôl
a dysgu yn ôl angen/dewis y plentyn hefyd,
I ddatblygu'r sgiliau i gael
mynediad a darganfod eu hunain,
I ddysgu sgiliau cymdeithasol
allweddol gyda'u cyfoedion ac oedolion,
Mae hwn yn ddull sydd wedi'i
brofi er mwyn paratoi plant yn barod ar gyfer addysg gynradd yn saith oed. Dyma
sut mae systemau addysg mwyaf llwyddiannus Ewrop yn gwneud pethau, ond mae
disgwyl i blant chwech a saith oed ym mlwyddyn dau eistedd ac ysgrifennu mewn
profion i gymharu ein plant â'r rhai yn Lloegr. Mae hyn yn gorfodi athrawon yn
y Cyfnod Sylfaen i ddechrau dysgu seineg a rhifau i'n plant pan fyddant yn dechrau
yn y Dosbarth Derbyn ac erbyn blwyddyn un bydd disgwyl iddynt eistedd ac
ysgrifennu, gan eu gwneud yn barod ar gyfer y profion hynny sydd yn adlewyrchu
ar yr ysgol.
Mae ein plant yn cael eu
hamddifadu o'u plentyndod, plant sy'n dechrau yn yr ysgol yn ddim ond pedair
oed yng Nghymru, sydd wedyn yn cael eu gorfodi i mewn i'r system hon, chwe awr
y dydd o ddysgu dwys yn yr ystafell ddosbarth. Nid dyma ethos blaengar y Cyfnod
Sylfaen y gwnaeth Cynulliad Cymru ei roi ar waith yn 2010. Rwy'n eich annog i gyd
i ystyried effeithiolrwydd y Cyfnod Sylfaen ledled Cymru, gan ddarparu'r cyllid
sydd ei angen i gael mwy o gynorthwywyr dysgu a hyfforddiant i ymarferwyr y
Cyfnod Sylfaen, fel y gall Addysg Gynradd Cymru fod yn un y gall Llywodraeth
Cymru fod yn falch ohono, a ddarperir yn eithriadol ym MHOB ysgol ledled Cymru.
Dylai pob plentyn yng Nghymru gael mynediad teg i chwarae cynhyrchiol, gan
baratoi'r ffordd iddynt gael taith dysgu gadarnhaol a gwobrwyol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y
gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y
deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/02/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- De Caerdydd a
Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2017