P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr
P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Sally Stephenson ar ôl casglu 939 llofnod ar lein â 729 llofnod papur -
cyfanswm o 1668 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod cynllun
rhyddhad ardrethi trosiannol Llywodraeth Cymru yn annigonol o ran diwallu
anghenion busnesau yr effeithir arnynt gan ailbrisiadau diweddaraf adeiladau,
ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn o fesurau rhyddhad
ardrethi parhaol i ysgafnhau'r pwysau ariannol ar fusnesau bychain.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/02/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb o ystyried y camau diweddar ar y mater
hwn a diffyg ymateb diweddar gan y deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/02/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2017