P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF
P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Cymdeithas yr Iaith ar ôl casglu 912 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rwy'n galw
ar Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Mudiad Meithrin, i ailystyried
penderfyniad andwyol y llywodraeth ddiwethaf i ddiddymu prosiect TWF. Yn
benodol, rwy'n galw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys i:
- wrthdroi'r penderfyniad o dorri £200,000 i'r prosiect sy'n olynu TWF
- adfer parhad o’r cymorth yr oedd TWF yn ei gynnig a oedd yn
canolbwyntio ar drosglwyddiad iaith a chefnogi babanod a rhieni newydd yn
genedlaethol, hytrach nag yn dameidiol. Byddai hyn yn golygu adfer swyddi
i swyddogion gyda phresenoldeb yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir
Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Tor-faen a Wrecsam.
- sicrhau cyllid ar gyfer gweithgareddau hybu’r Gymraeg i rieni sydd â
chysylltiadau â gwasanaethau megis Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith,
Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden, gan gynnwys gweithgareddau sy'n rhoi
cymorth i iechyd meddwl ôl-enedigol hefyd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/04/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried boddhad y
deisebwyr gydag ehangu'r rhaglen Twf o fis Ebrill 2017, cytunwyd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am eu cyfraniad.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/02/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2017